Llys Gruffydd AS

Cadeirydd

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Senedd Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1SN

 

4 Awst 2023

Annwyl Llyr,

Diolch am eich llythyr dyddiedig 25 Gorffennaf mewn cysylltiad â'n perfformiad amgylcheddol. Rwyf wedi ymateb i'r pwyntiau penodol rydych chi wedi'u codi yn eu tro isod.

Israddio ein Hasesiad Perfformiad Amgylcheddol

Er gwaethaf y siom o weld sgôr yr Asesiad Perfformiad Amgylcheddol (EPA) yn gostwng i 2* yn 2022, rwyf am eich sicrhau y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adfer hyn ac roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol pe bawn i'n nodi'r duedd ddiweddar o’i chymharu â’r metrigau amgylcheddol allweddol hyn sy'n cyfrannu at yr EPA.

Blwyddyn

WWTW (Gwaith Trin Dŵr Gwastraff – cyfanswm o 597)

WWTW Cydymffurfio â Thrwyddedau Gollwng

Llygredd Difrifol

Cyfanswm y llygredd

Hunan-adrodd am lygredd

Sgôr EPA

2019

5

98.3%

2

95

73%

3*

2020

3

99.7%

3

77

80%

4*

2021

5

98.3%

3

83

76%

3*

2022

6

98.7%

5

891

69%

2*

 

(1 y cyfanswm o 89 o ddigwyddiadau oedd y nifer isaf ond un o ddigwyddiadau a gofnodwyd gan Gwmnïau Dŵr a Charthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr yn 2022).

 

Yn unol â'n hymrwymiad i'r Prif Weinidog, mae ein Bwrdd yn rhoi'r flaenoriaeth uchaf i gyflawni'r safonau gorau posibl o ran perfformiad amgylcheddol. Rydym yn ymfalchïo yn fawr yn y ffaith fod gan Gymru hanes o berfformiad ecolegol cyrff dŵr sy’n sylweddol well na Lloegr, ac o ran nifer y traethau ymdrochi baner las yng Nghymru. Nid ar lefel Bwrdd yn unig y mae'r balchder hwnnw - mae'n cael ei rannu gan ein pobl ledled y cwmni, yn enwedig ar ochr dŵr gwastraff ein busnes, y mae ei ganlyniadau arolwg ymgysylltu diweddar yn dangos eu bod wedi ymrwymo'n gryf i'r hyn y maent yn ei wneud dros yr amgylchedd ac i Gymru. Dyna pam roedd symud o EPA 3* i 2* o ganlyniad i'r asesiad a roddwyd ar y ddau ddigwyddiad llygredd difrifol mor bwysig i ni.

 

Nid fel esgus, ond fel ffactor pwysig o ran perfformiad cyffredinol ein llygredd, y dylid ystyried y sychder a'r tymheredd uchel a brofwyd yn 2022 wrth asesu ein perfformiad llygredd. Yn ystod y sychder gwelsom rai o'r lefelau afonydd isaf erioed yng Nghymru lle cafodd unrhyw rwystr a arweiniodd at ollyngiad carthion effaith uwch. Yn yr un modd, gwelodd y llif is mewn carthffosydd gynnydd o 7% yn ein cyfradd rwystrau, gan arwain at fwy o berygl o lygredd.

 

Mae'r prif reswm dros y gostyngiad i sgôr EPA 2*yn ymwneud â chynnydd bach (2) mewn digwyddiadau llygredd difrifol.

 

Y digwyddiadau oedd:

 

 

 

 

 

 

Fel modd o gymharu â pherfformiad ar draws y sector, mae'r tabl isod yn dangos bod dau gwmni wedi bod â mwy na 10 achos o lygredd difrifol a dim ond dau ddigwyddiad o'r fath nad adroddwyd amdanynt.

 

Perfformiad Cymharol Llygredd Difrifol 2022 Cwmnïau Dŵr yng Nghymru a Lloegr

Nifer y digwyddiadau difrifol 2022

0

 

1

2

4

5

> 10

> 15

Nifer y Cwmnïau Dŵr

2

1

1

1

2

1

1*

* 19 Digwyddiad difrifol gwirioneddol

 

 

 

 

O ran cyfanswm yr achosion o lygredd nad oeddent yn ddifrifol, roedd y digwyddiadau fel a ganlyn;

 

Blwyddyn

Carthffosydd Budr

Gorlif Storm Gyfun

Carthffos wedi'i phwmpio

Gorsaf bwmpio

Gwaith Trin

2021

37

15

12

12

8

2022

47*

9

4

18**

11***

* Cynnydd oherwydd llif isel mewn carthffosydd adeg sychder 2022

** Cynnydd oherwydd rhwystrau a lefelau isel o achosion o fethiant offer

*** Cynnydd yn gysylltiedig â lefelau isel mewn afonydd y cafodd elifion eu gollwng iddynt ac oherwydd sychder a gafodd fwy o effaith / a oedd yn fwy gweladwy

 

Mae’r tabl isod yn dangos cyfanswm yr achosion o lygredd bob blwyddyn ers 2011.

 

 

Defnyddir y data uchod a gwybodaeth fwy hanesyddol i ddatblygu a gweithredu ein cynlluniau gwella a arweinir gan dystiolaeth.

 

Mae gennym strategaeth lleihau llygredd gynhwysfawr sy'n cyfuno amrywiaeth o weithgareddau gwella penodol yr wyf wedi'u crynhoi isod:

 

·         AMP7 (2020 – 2025) Buddsoddiad Cyfalaf- mae £52m wedi'i ddyrannu i leihau'r perygl o lygredd. Hefyd, bwriedir cynnal a chadw carthffosydd, gorlifiadau stormydd, gorsafoedd pwmpio carthion a gwaith trin dŵr gwastraff a gwmpesir yn ein rhaglen fuddsoddi dŵr gwastraff gyffredinol gwerth £830m yn AMP7.

 

·         Monitro Carthffosydd o Bell– larymau rhybuddio rhagfynegol cynnar i alluogi’r ymyrraeth gynharaf, sy’n ffurfio rhan o'n rhaglen ehangach 'Rhwydwaith Clyfar'. Mae hyn yn cyfuno data amser real gyda dull dadansoddol o ran gwyddor data i fodelu ein rhwydwaith a thargedu ymyriadau ataliol. Archwilio prif bibellau pwmpio carthffosydd yn amlach, yn enwedig y rhai y gwyddys eu bod yn asedau â risg o ddigwyddiadau difrifol. Mae'r gwaith monitro hwn wedi ein helpu i leihau llifogydd carthffosydd (gellid dadlau mai hwn yw’r math gwaethaf o fethiant gwasanaeth o ran ein cwsmeriaid) a lle mae gennym hanes o berfformiadau gorau’r diwydiant er gwaethaf y glaw trwm yng Nghymru.

 

·         Ar gyfer asedau uwchben y ddaear fel gorsafoedd pwmpio carthion / gwaith trin, rydym yn gosod offer monitro o bell newydd i gadarnhau capasiti pwmpio a mesur llif.

 

·         Cynlluniau Argyfwng Asedau Risg Uchel– cynlluniau penodol gyda'r nod o atal digwyddiadau effaith uchel posibl. Gan gynnwys asesiadau a chynlluniau i ymdrin â ffactorau fel colli pŵer y prif gyflenwad.

 

·         Ymgyrch 'Stopio'r Bloc' -  gyda dros 90% o achosion o lygru am y tro cyntaf i'w priodoli i rwystrau carthffosydd a achosir gan weips gwlyb plastig, dyma ein hymdrech i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn gyffredinol er mwyn atal 'cam-drin carthffosydd' ac i dargedu cymunedau sydd â hanes rhwystr sy'n dod i'r amlwg neu sy'n hysbys. Mae hyn hefyd yn cynnwys gweithio gyda masnachwyr i leihau achosion o waredu braster ac olew i garthffosydd, gyda'r pŵer i erlyn troseddwyr parhaus.

 

·         Gallu ac ymgysylltiad ein pobl  – rydym yn buddsoddi er mwyn darparu'r offer cynnal a chadw diweddaraf i'n pobl a'r hyfforddiant i fynd gydag ef. Mae gennym rig efelychu jetio carthffos yn ein canolfan hyfforddi yn Abercynon. Mae'r ymwybyddiaeth o atal llygredd a diogelu'r amgylchedd yn fwy cyffredinol yn destun cyfarfodydd tîm/sesiynau briffio ac fe'i cefnogir gan y Tîm Gweithredol trwy gyfathrebu megis fy ngalwad byw i'r holl gydweithwyr bob mis. Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn Rheolwyr Cyswllt Ansawdd Afonydd a mwy o Dechnegwyr Atal Llygredd sy'n cwmpasu Cymru, sy'n rhyngweithio'n ddyddiol â chymunedau lleol a grwpiau â buddiant yn nalgylchoedd afonydd. Mae ein timau dŵr gwastraff, yn cael gwybodaeth am berfformiad o’i gymharu â’r targed ac yn cael eu hannog i gyfrannu at ein cynlluniau gwella.

 

Yn gyffredinol mae ein trefniadau gwella yn destun goruchwyliaeth reolaidd a herio adeiladol gan ein tîm Gweithredol a'n Bwrdd. Mae Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch ein Bwrdd (QSC), yn unigryw yn y sector, ac mae'n gyfrifol am waith craffu manwl ar ein perfformiad sy'n sail iddo ddwyn ein rheolaeth i gyfrif. Mae hefyd yn ymwneud yn agos â datblygu strategaethau gwella amgylcheddol. Mae'n cynnwys ymgynghorydd arbenigol annibynnol (cyn Gyfarwyddwr strategaeth cwmni dŵr blaenllaw ac ymgynghorydd amgylcheddol uchel ei barch ar hyn o bryd) i gynorthwyo’r gwaith craffu a herio o ran y modd yr ydym yn defnyddio cynlluniau gwella effeithiol a defnyddio technolegau cyfoes ac ati.

 

O ran y gwersi a ddysgwyd o 2022 fe fyddwn i’n crynhoi fel a ganlyn:

 

·         Mae gennym lefel gynyddol o offer technoleg monitro o bell wedi eu gosod yn ein hasedau. Mae sicrhau lefel gyson o oruchwyliaeth rheoli o weithrediad a chynnal a chadw’r dechnoleg hon yn hanfodol bwysig. Mae hyn yn gysylltiedig â digwyddiad Crundale y cyfeirir ato uchod.

 

·         Yn gysylltiedig â'r uchod, byddwn hefyd yn parhau i gyflwyno offer monitro o bell i gadarnhau gweithrediad pympiau a bod offer ar-lein ac yn perfformio i statws safonol disgwyliedig.

 

·         Rydym yn sicrhau ein bod yn targedu buddsoddiad yn y dyfodol i liniaru asedau a allai fod â risg uchel – mae hyn yn cynnwys £170m i newid prif bibellau pwmpio carthffosydd strategol yng ngogledd a de Cymru. Byddwn hefyd yn cynyddu lefelau cyfalaf cynnal a chadw gyda chynnig i ddyblu gwaith cynnal a chadw carthffosydd gyda £50m yn AMP 8 (2025 – 2030).

 

·         Parhau i ddatblygu ein gallu Rhwydwaith Clyfar, gyda lefel barhaus o ganolbwyntio ar dechnoleg newydd bosibl a ffyrdd o weithio i atal perygl o lygredd. (Gweler yr adran Cymharu Perfformiad â  Chwmnïau Eraill isod).

 

·         Parhau i ymgysylltu â'r cyhoedd i leihau nifer yr achosion o rwystrau carthffosydd a pharhau i lobïo dros wahardd weips gwlyb plastig yng Nghymru.

 

Mae ein hasesiad o berygl difrifol o lygredd yn dangos mai'r bygythiad mwyaf o ran digwyddiadau yn y dyfodol yw methiant nifer o brif bibellau pwmpio carthion strategol. Fel Prif Bibell Arfordir De-ddwyrain Cymru, Prif Bibell Cinmel yng ngogledd Cymru a Phrif Bibell Bynea yn ne-orllewin Cymru. Rydym wedi cynnwys y rhain yn ein cynlluniau buddsoddi AMP 8. Yn amlwg, bydd angen cymeradwyaeth reoleiddiol i helpu i liniaru'r peryglon sylweddol hyn.

 

Effaith Amgylcheddol

 

Er mwyn osgoi amheuaeth, mae'n ddrwg gennym bob amser am unrhyw effaith amgylcheddol niweidiol yr ydym yn ei hachosi ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wneud yn well.

 

Rydym yn derbyn yn llawn bod gennym lefel uchel o ollyngiadau gorlif dŵr storm cyfun (CSO) o'i gymharu â chwmnïau dŵr eraill ac mae ffactorau sylweddol y dylid eu hystyried mewn cysylltiad â hyn:

 

 

 

 

Hefyd, mae gan lawer o'n dalgylchoedd afonydd raddiannau hydrolig serth a disgrifir yr afonydd yn rhai 'fflachiog' oherwydd y cynnydd cyflym mewn llif sy'n gysylltiedig â glawiad a gostyngiad dilynol pan fydd glawiad yn gostegu. Mae ystyried yr holl ffactorau hyn yn golygu, er bod gennym lefel uchel o weithrediad CSO, nid yw hyn o reidrwydd yn gysylltiedig â lefelau uchel o lygredd neu effaith amgylcheddol.

 

Mae prif achos llygredd afonydd yng Nghymru yn gysylltiedig â llygredd maethynnau (ffosfforws). Rydym yn llwyr gefnogi polisi Llywodraeth Cymru o wneud y gwaith o leihau ffosfforws yn flaenoriaeth er mwyn gwella ansawdd afonydd.

 

Mae'r Prif Weinidog drwy ei raglen o 'Uwchgynadleddau Ffosffad' wedi ei gwneud yn glir mai dyma ei flaenoriaeth ac rydym wedi alinio ein strategaeth lleihau llygredd â'r dull hwn, gan y bydd yn cyflawni mwy o welliant na phe baem yn canolbwyntio ar leihau gollyngiadau o CSOs.   

 

Rydym yn cael ein cyfarwyddo gan y strategaeth a amlygir uchod gan flaenoriaethu ein buddsoddiad lleihau ffosfforws ar y chwe afon Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) sy'n methu yn y cyfnod buddsoddi presennol ac yn AMP 8. Mae hyn yn golygu y byddwn erbyn 2030 wedi lleihau ein llwyth ffosfforws ar yr afonydd hyn 90% ac erbyn 2033 100%. Rydym wedi modelu llwytho llygredd llwyr ar afonydd ACA ac mae effaith gyfartalog CSO yn llai na 5%, tra bod llwytho ffosfforws tua 23%. Mae'r gweddill yn dod o sectorau eraill - mae'r modelu wedi cael ei wirio'n annibynnol gan CNC.

 

Er ein bod yn canolbwyntio ein buddsoddiad lleihau llygredd ar leihau ffosfforws nid yw hyn yn golygu nad ydym hefyd yn mynd i'r afael â CSO. Yn y cyfnod presennol rydym yn buddsoddi dros £140m ac yn AMP8 byddwn yn buddsoddi £300m yn rhagor. Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, rydym yn anelu buddsoddiad at y CSOs hynny sy'n achosi'r niwed amgylcheddol mwyaf sylweddol ac rydym yn cytuno i flaenoriaethu'r buddsoddiad hwn gyda CNC, drwy'r 'Fframwaith Asesu Gorlif Storm' (SOAF). Mae'r asesiad hefyd yn ystyried effaith ecolegol neu amwynder ac mae hyn hefyd yn cael ei ystyried yn y broses flaenoriaethu. Bydd y dull hwn sy'n canolbwyntio ar leihau effaith amgylcheddol ac amwynder yn sicrhau gwelliant cynaliadwy sy’n well na’r hyn y gellir ei gyflawni trwy ganolbwyntio ar leihau nifer y gollyngiadau CSO yn unig.

 

Yn sail i resymeg y strategaeth mae cyflwr ansawdd afonydd a dŵr arfordirol yng Nghymru. Yng Nghymru, mae 44% o afonydd yn bodloni statws 'da' o dan Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE, o'i gymharu â 14% yn Lloegr (ac 8% yn yr Almaen a'r Iseldiroedd). Hefyd mae prif achosion llygredd hefyd yn wahanol iawn o ran cymharu â Lloegr. Yma yng Nghymru mae llygredd carthion yn cyfrif am oddeutu 23% o gyfanswm llygredd ond yn Lloegr mae'n 44%. Bydd ein cynllun AMP8 arfaethedig yn gwella dros 750km o afonydd yng Nghymru.

 

Hunan-adrodd am ddigwyddiadau

 

Roeddem yn siomedig o weld lefel ein hunan-adrodd yn gostwng i 65% yn 2022, y prif reswm dros hyn, yw, gyda'r sychder a lefelau isel yr afonydd, roedd mwy o ddigwyddiadau'n amlwg ac yn cael eu hadrodd yn uniongyrchol i CNC er enghraifft gan y cyhoedd.

 

Fodd bynnag, mewn ymgais i gynyddu ein gallu i hunan-adrodd rydym yn gwneud y canlynol;

 

Cymharu perfformiad â Chwmnïau Dŵr Eraill

 

Fel Pwyllgor Gweithredol a thrwy Bwyllgor Ansawdd a Diogelwch y Bwrdd, rydym yn disgwyl i bob un o'r strategaethau gwella amgylcheddol sylfaenol yr ydym yn eu hadolygu ddangos sut rydym yn meincnodi ein perfformiad a chyflwyno arloesedd i'n cynlluniau gwella. Er mwyn dod â hyn yn fyw mae ein cynlluniau meincnodi a gwella yn gysylltiedig â’r canlynol:

 

·         Water UK National Pollution Group– adolygiad misol o arferion gorau, perfformiad ac arloesedd a rennir gan yr holl gwmnïau / awdurdodau dŵr a charthffosiaeth yn y DU. (Mae Hafren Dyfrdwy hefyd yn rhan o'r broses hon. Mae hunan-adrodd hefyd yn cael ei adolygu yma ac mae ein harferion yn cyd-fynd yn llwyr ag arferion da yn y sector yn y maes hwn).

 

·         Meincnodi Rhyngwladol- Cysylltiadau agos â Hofor, y darparwr gwasanaethau dŵr gwastraff yn Copenhagen. Meincnodi blynyddol gyda Sydney Water yn Awstralia.

 

·         Smart Water Networks International Association (SWAN) – aelod sefydlol a gweithredol o'r fforwm rhyngwladol hwn ar gyfer arferion gorau wrth ddatblygu’r gwaith o gymhwyso AI a dadansoddeg rhagfynegol.

 

·         Ymchwil Diwydiant Dŵr y DU (UKWIR)– Mae Tony Harrington ein Cyfarwyddwr Amgylchedd yn Aelod o Fwrdd UKWIR ac yn arwain ystod o raglenni arloesi ac ymchwil sy'n gysylltiedig â dŵr gwastraff.

 

·         Cronfa Arloesi Ofwat – Unwaith eto Tony Harrington yw un o gyfarwyddwyr sefydlol SPRING y cerbyd a ddefnyddir i gydlynu ceisiadau am y gronfa AMP7 gwerth £200m ac rydym yn arwain nifer o brosiectau amgylcheddol sy'n gysylltiedig ag elfennau allweddol o'n cynlluniau gwella dŵr gwastraff yn y dyfodol.

 

Mae gennym hefyd ein rhaglen arloesi fewnol helaeth ein hunain, lle mae ein timau arloesi dŵr a dŵr gwastraff yn gweithio gyda 79 o sefydliadau a phrifysgolion blaenllaw (gan gynnwys y rhan fwyaf o'r Prifysgolion yng Nghymru) ar brosiectau arloesi ac ymchwil a datblygu. Mae'r rhain yn gysylltiedig, yn achos dŵr gwastraff, yn uniongyrchol â'n cynllun gwella tymor byr a risgiau / uchelgeisiau tymor hwy. Yn AMP7 rydym yn amcangyfrif y byddwn yn cyflawni trosoledd gwerth arloesi sy’n werth £80m trwy'r broses hon. Adroddwyd yn annibynnol yn ddiweddar hefyd mai ynghyd ag United Utilities (cwmni tair gwaith ein maint ni), y mae’r ddau gwmni sydd wedi gwneud cais am y nifer fwyaf o brosiectau o Gronfa Arloesi AMP 7 gwerth £200m Ofwat a’u sicrhau – i ni mae hyn wedi golygu 54 cais gyda 27 prosiect wedi'u sicrhau.

 

Perfformiad Cymharol Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy

 

Diolch am gyfeirio at Hafren Dyfrdwy a'u hanes o ddim digwyddiadau llygredd difrifol yn 2022. Mae gennym berthynas waith gadarnhaol â nhw ac rydym yn cydweithio trwy'r gwahanol fforymau diwydiant fel y crybwyllwyd uchod ac yn ddwyochrog fel cwmnïau cyfagos yng Nghymru. Byddwn yn sicrhau ein bod yn parhau i rannu arferion gorau a’r hyn a ddysgwyd gan eraill ar bob cyfle.

 

Cwmni

Digwyddiadau Llygredd Difrifol

Llygredd fesul carthffos 10km

Cydymffurfiaeth Gweithfeydd Trin %

Llifogydd Carthffosydd Mewnol fesul cysylltiadau 10k

Cwymp Carthffosydd fesul carthffos 1km

Hafren Dyfrdwy

0

39.84

97.87%

2.34

22.36

Dŵr Cymru

5

22.90

98.32%

1.36

6.71

 

 

 

Cynnydd mewn prisiau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

 

Yn gyntaf oll, a gaf i ymateb i'ch sylw pan ddywedoch chi mai ni sydd â'r taliadau uchaf ond un yng Nghymru a Lloegr? Pe baech yn gwahanu ein bil yn gostau dŵr a charthffosiaeth, mewn gwirionedd, ni sydd â’r bil isaf ond dau ar gyfer gwasanaethau dŵr, sef £193 (£213 ar gyfartaledd) o'r cwmnïau yng Nghymru a Lloegr. Ein bil dŵr gwastraff yw'r uchaf ond un, sef £306 (£241 ar gyfartaledd) ac mae hyn yn gysylltiedig â'r ffaith bod cwmnïau sydd â'r arfordiroedd hiraf (h.y. South West Water a Dŵr Cymru) wedi gorfod darparu adnoddau trin carthion am y tro cyntaf i'w cymunedau arfordirol ar ôl preifateiddio. Yn achos Cymru hyd at ddiwedd y 1990au cafodd bron i 50% o'r carthion yn y wlad eu gollwng heb lawer o driniaeth os o gwbl i ddyfroedd arfordirol. Mae ein bil dŵr gwastraff ers preifateiddio wedi gorfod ariannu’r gwaith o adeiladu'r seilwaith dŵr gwastraff hwn. I ni, roedd hyn er mwyn darparu triniaeth lawn i bob cymuned uwchben 15k o boblogaeth o amgylch arfordir Cymru, gan gynnwys trefi a dinasoedd arfordirol de Cymru rhwng Cas-gwent a Chaerfyrddin. Doedd dim rhaid i gwmnïau 'mewndirol' eraill fel Severn Trent, sydd heb arfordir, ariannu'r math yma o wariant wrth i'w seilwaith gael ei drosglwyddo iddyn nhw ar adeg preifateiddio.

 

Mae'r tablau isod yn dangos lefel gymharol y bil cyfan yn ogystal â'i ddadansoddi i gynnwys yr elfennau dŵr a gwastraff ar wahân.

 

 

Mae’r siart isod yn dangos y newid ym bil cartref cyfartalog ers 2001 (pan ddaeth Dŵr Cymru yn gwmni nid-er-elw).

 

Mae'r buddsoddiad ychwanegol o £100m a gyhoeddwyd gennym yn gynharach eleni  i wella ansawdd afonydd erbyn 2025 yn cael ei ariannu o'n gwarged ariannol o'n strwythur nid-er-cyfranddalwyr. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i fuddsoddi £40m arall i wella CSOs a bydd £60m yn cael ei ddefnyddio i leihau ffosfforws ar wahanol gynlluniau ar draws afonydd ACA sy'n methu a grybwyllwyd uchod. Mae hyn i bob pwrpas yn cyflymu gofynion buddsoddi'r dyfodol er mwyn cyflawni'r gwelliannau'n gyflymach.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Maniffesto Dŵr Afonydd a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth 2023 ac sydd ar gael ar ein gwefan.

 

Buddsoddiad Dŵr Cymru mewn seilwaith o'i gymharu â chwmnïau dŵr sy'n eiddo preifat yn Lloegr

 

Mae'n anodd gwneud cymhariaeth syml gan y bydd buddsoddiad pob cwmni yn cael ei gytuno'n unigol gyda rheoleiddwyr a bydd yn seiliedig ar eu gofynion cwmni penodol. Ers i Glas Cymru sefydlu'r model nid-er-elw presennol yn 2001, rydym bob amser wedi cyflawni ein rhaglenni cyfalaf rheoleiddiol y cytunwyd arnynt yn llawn. Mewn gwirionedd, yn ystod y cylchoedd AMP olaf rydym wedi defnyddio ein 'elw' i ymgymryd â mwy o fuddsoddiad cyfalaf yn ychwanegol at ein rhaglenni rheoleiddio.

 

Ers 2001 mae'r holl arian dros ben wedi cael ei ddefnyddio er budd cwsmeriaid, sef cyfanswm o £3.5 biliwn. Mae tua £2.9 biliwn wedi'i gadw i wneud y busnes yn fwy cydnerth yn ariannol - yn 2001 roedd ein lefel gerio ar 93%. Dros y 22 mlynedd diwethaf rydym wedi gostwng hyn i 58% ymhell o fewn y lefel ganllaw a gynigiwyd gan Ofwat. Mae'r cyhoeddusrwydd diweddar ynghylch Thames Water wedi amlygu’r ffaith bod eu gerio ar 83%. Mae ein lefel isel o gerio a’n dull gweithredu ariannol darbodus wedi ein rhoi mewn sefyllfa ariannol sefydlog. Ynghyd â'n model nid-er-cyfranddalwyr, mae hyn wedi rhoi statws credyd sy'n arwain y sector i ni sy'n caniatáu i ni fenthyg arian am gost is, sy'n rhoi gwell gwerth i'n cwsmeriaid.

 

Mae’r siart isod yn dangos ein graddfeydd credyd o gymharu â gweddill y sector fel yr adroddwyd yn adroddiad gwydnwch ariannol diweddaraf Ofwat.

 

A graph with blue and green bars  Description automatically generated

 

Hefyd, mae tua £580m wedi'i ddychwelyd i gwsmeriaid ers 2001 o ganlyniad i'n model "nid-er-cyfranddalwyr." Mae hyn yn cyfateb i ddifidend blynyddol o 2% y gellir ei gymharu â pherfformiad ariannol y cwmnïau eraill. Defnyddiwyd rhan helaeth yr arian hwn i gyflawni’r canlynol:

 

 

I grynhoi, ein nod yw adfer ein sefyllfa flaenorol EPA 4* ac rydym yn gwneud pob ymdrech i wneud hyn dros y blynyddoedd nesaf. Cefnogir yr uchelgais hon gan ein cynlluniau i gyflawni ein rhaglen fuddsoddi cyfalaf fwyaf erioed yn AMP8, o dros £3.2bn gyda dros hanner hwn ar ein seilwaith dŵr gwastraff. Efallai y bydd adennill ein safle 4* yn cymryd blwyddyn neu ddwy, ond rydym wedi ymrwymo i wneud hynny ac rydym yn ffyddiog y gallwn wneud hynny.

 

Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â mi os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch.

 

Yn gywir

Peter Perry
 

 

 

 

 

 


Peter Perry

Prif Weithredwr